LingoMap: Pengwiniaid Chile ar streic

Er mai dod yma i Chile er mwyn gwella safon fy Sbaeneg nes i, dyw hyn ddim yn golygu fy mod i’n astudio’r iaith o lyfr bob dydd. Na, rydw i yma fel cynorthwyydd Saesneg yn y brifysgol, la Universidad Austral de Chile. Mae hyn yn golygu fy mod i’n cynnal dosbarthiadau sgwrs, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n astudio Saesneg siarad a thrafod yn Saesneg, clywed sut mae rhywun yn siarad yn rhugl, clywed acen Brydeinig ac rydw i’n eu cywiro nhw a chynnig dywediadau ac idiomau iddyn nhw eu defnyddio wrth siarad. Golyga hyn hefyd fy mod i’n cael profiad o ddysgu ac o brofi elfen wahanol i’r arfer o fywyd Prifysgol, fel aelod o’r staff!

Mae wedi bod yn brofiad newydd bod yn gyfrifol am ran o addysg pobl eraill, ac yn rhyfedd dysgu pobl sydd yr un oed, os nad yn hŷn na fi. Buodd hefyd rhaid i fi fod ar banel arholi ar gyfer arholiadau llafar Saesneg tymor dwetha, do’n i ddim yn teimlo’n ddigon pwysig ar gyfer hyn!

Mae’n hawdd gweld rhai gwahaniaethau amlwg rhwng bywyd prifysgol yma yn Chile, a’r bywyd prifysgol sydd gen i nôl yng Nghymru..

Yn gyntaf, mae’r diwrnod academaidd yn cychwyn am 8 yn y bore i bawb, yn y feithrinfa, trwy’r ysgol ac yn y brifysgol hyn yn oed, mae hyn hefyd yn cynnwys arholiadau! Dychmygwch chi orfod bod yn barod i berfformio eich gorau mewn prawf am 8 y bore tra’i bod dal yn dywyll tu allan –dim diolch!

Yn ail mae’r system arholi yn llawer llai ffurfiol na’r system rydw i wedi arfer â hi yng Nghymry (ble mae dyddiad, amser a lleoliad eich arholiad wedi ei benderfynu fisoedd o flaenllaw). Dydw i ddim am annog y stereoteipiau sy’n bodoli am Dde America, ond mae’n eithaf gwir fod llawer o bethau yn cael eu gadael tan y funud olaf (yn Chile o leiaf), gan gynnwys trefnu arholiadau. Mae’r myfyrwyr druan yn aml ond yn gwybod am arholiadau pwysig eu gradd rhyw ddeuddydd ynghynt, sy’n gallu effeithio ar eu paratoadau a’u hadolygu, mae nhw wastad yn stressed oherwydd hyn!

Dwi wedi pasio grwpiau o fyfyrwyr sawl gwaith yn aros yng nghoridor ein hadeilad ar fore arholiad, gan nad oes ystafell arholi wedi ei drefnu ar eu cyfer – bach o sioc i mi, wedi dod o gefndir ffurfiol a threfnus Prydain!

Mae’r berthynas rhwng athrawon neu ddarlithwyr prifysgol a’u myfyrwyr yma hefyd yn rhywbeth sydd yn wahanol iawn i Gymru. Yn y brifysgol adref dwi wedi arfer â chynnal perthynas eithaf cyfeillgar gyda rhai athrawon pan wela i nhw yn y dosbarth neu ar y stryd, tra bod eraill yn hynod ffurfiol ac yn cadw eu pellter oddi wrthom ni fyfyrwyr ble mae modd.

Ond yma yn Chile mae athrawon a myfyrwyr yn cyfaill eu gilydd gyda sws a chwtch fel pawb arall, ac mae’r athrawon yn dod i nabod eu myfyrwyr yn hynod o dda, o’u bywyd prifysgol i’w pololo/polola (gair Chilenaidd am sboner/wejen) a’u teuluoedd. Maen nhw hyd yn oed yn ffrindiau ar Facebook ac yn aml yn cymdeithasu y tu allan i’r brifysgol. Mae teimlad eithaf teuluol yn ein hadran, peth arall sydd ddim mor arferol adre.

Ond y peth sydd yn eithriadol o wahanol i’n harferion addysg presennol yng Nghymru yw’r ‘paros’. ‘Paro’ yw’r gair sy’n cael ei sibrwd yn aml rhwng myfyrwyr yn y brifysgol, gair mae’r athrawon yn ofni clywed, gair sy’n medru dod a holl brifysgolion Chile i stop : STREIC!

Ces i fy mhrofiad cyntaf o ‘paro’ mis Awst dwethaf, wrth gyrraedd Chile yn barod ac yn frwdfrydig i ddechrau gweithio, ond i glywed bod y brifysgol ar ganol streic myfyrwyr, heb ddyddiad terfynol. Felly bues i yma am 6 wythnos (yn crwydro Valdivia a theithio o gwmpas yr ardal, galle streic fod lot gwaeth!) yn aros i glywed y newyddion fod y brifysgol am ail-agor, dechrau eithaf annisgwyl i’m blwyddyn yn Chile!

Des i ddysgu fod streic yn ddigwyddiad arferol yma, mewn prifysgolion a hyd yn oed mewn ysgolion uwchradd weithiau, ac yn medru para misoedd ar fisoedd. Gan amlaf byddan nhw’n dechrau gyda chyfres o ‘marchas’ (gorymdeithiau) trwy’r ddinas, gyda myfyrwyr yn gweiddi, canu, dawnsio, bwrw drymiau a chanu cyrn wrth chwifio baneri a phlaciau i dynnu sylw at y problemau sy’n eu hwynebu. Mae’r rhan yma o’r streic yn medru ymddangos yn llawer o hwyl a’r myfyrwyr gan amlaf yn mwynhau peidio gorfod mynd i ddosbarthiadau am ddiwrnod.. ond rai oriau yn ddiweddarach mae’r dathlu yn aml yn troi’n chwerw, wrth i’r ‘carabineros’ (heddlu milwrol Chile) geisio rhoi trefn ar y ddinas eto, er mwyn i’r traffig fedru llifo dros y bont sy’n cysylltu dwy ran Valdivia.

Yn anffodus dyma ble mae’r taflu cerrig yn dechrau, a’r awyrgylch yn troi’n fygythiol. Er nid dyma fwriad y rhan fwyaf o fyfyrwyr wrth ymuno â’r streic, gall ond llond llaw o fyfyrwyr droi’r sefyllfa’n un peryglus. Gyda hyn mae’r ‘carabineros’ yn ymateb gyda chanonau dŵr pwerus a ‘gases lacrimógenos’ (nwy dagrau) sy’n hongian yn drwm yn yr awyr ac yn achosi i bawb besychu a’u llygaid a’u trwynau i redeg, gan dawelu’r sefyllfa. Dydw i ddim yn cofio sawl gwaith i mi gyrraedd y dosbarth i ddechrau dysgu gyda llygaid coch wedi cerdded heibio safle protest, a theimlo’r nwyon yn cosi fy nhrwyn a ngwddw wrth i mi gerdded mewn camgymeriad drwy’r nwyon, poenus!

Cynhaliwyd un o streiciau mwyaf trawiadol Chile yn 2006, am dri mis, gan fyfyrwyr ysgol uwchradd. Caiff ei nabod fel ‘La Revolución de los Pingüinos’ (chwildro’r pengwiniaid) gan i 790,000 0 fyfyrwyr orymdeithio yn eu gwisgoedd ysgol du a gwyn dros y wlad, oedd yn gwneud iddyn nhw edrych fel criwiau enfawr o bengwiniaid! Fe dynnodd y chwildro sylw’r byd i gyd at Chile, gan achosi i’r llywodraeth wneud newidiadau mawr i addysg yma. Mae gan bawb yn Chile atgofion a’i stori ei hun am streic 2006.

Mae’r streiciau yma i gyd yn dechrau gan fod y myfyrwyr am weld newidiadau i’r system addysg a hawliau myfyrwyr, megis ffioedd prifysgol rhatach ac addysg o safon uwch a thecach ym mhob rhan o’r wlad. Mae’n anhygoel i mi fod rhaid i’r myfyrwyr ddangos eu rhwystredigaethau yn y fath ffordd er mwyn gweld newidiadau i’r system.

Mae’r digwyddiadau rydw i wedi eu gweld dros y flwyddyn yn gwneud i mi edmygu dewrder a pharodrwydd myfyrwyr yma, sy’n ceisio newid eu gwlad am y gorau, ond yn ogystal â hyn yn gwneud i mi werthfawrogu mor syml a saff mae bywyd yng Nghymru ar y cyfan, a’r hawliau sydd gyda ni sy’n ein caniatáu i leisio ein barn heb orfod gwynebu trais na niwed.

Gadael Ymateb

css.php