LingoMap: O’r de i’r gogledd mewn 3 mis

Ers y tro diwethaf i fi ysgrifennu, dwi wedi teimlo dau ddaeargryn (bach) !! Pan ddigwyddodd yr un cyntaf, ro’n i yn y gwely, ac yn meddwl bo fi’n dechrau mynd bach yn bonckers, nes i fi gyffwrdd y wal i neud yn siŵr, ac roedd e bendant yn symud!

 

Unrhyw esgus am wyliau, bydd Chile’n manteisio arno. Y flwyddyn hon (yn ôl y wê) bydd Prydain yn mwynhau 6 gŵyl y banc neu wyliau cenedlaethol; nifer arferol, rhesymol, 6 diwrnod ychwanegol o wyliau na’r disgwyl, lwcus iawn! Bydd Chile, ar y llaw arall, yn cymryd 15 gŵyl y banc. 15 feriado mewn blwyddyn, sy’n teimlo bron fel un am yn ail wythnos pan chi’n byw ‘ma. Wrth siarad gyda ffrindiau a phobl leol yma, mae nifer yn cyfaddau eu bod nhw ar y cyfan yn ddiog, ac yn manteisio ar unrhyw gyfle i beidio gweithio, aros adre neu i ddathlu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Gyda chyd-ddigwyddiad rydw i ar fws yn ysgrifennu’r blog yma tra’n teithio i ymweld â thref gyfagos ym mynyddoedd yr Andes am y penwythnos hir. Pam fod y penwythnos yn hir? Bingo, FERIADO.
Mae rheswm gwreiddiol nifer o’r gwyliau yma, fel yng Nghymru hefyd falle, wedi eu colli erbyn hyn, ond un sy’n parhau i fod yn un pwysig i bawb yn Chile yw’r dieciocho. El dieciocho sy’n llythrennol yn golygu ‘y deunawfed’, ac yn cyfeirio at y deunawfed o fis Medi. Ar y dyddiad yma yn y flwyddyn 1810 dechreuodd y broses o greu Chile annibynnol wedi 3 chanrif dan reolaeth Sbaen, gan ail-gipio rheolaeth dros eu gwlad wedi cyfnod hir o ddioddef, ymladd a cholled llawer o arferion brodorol Chile. Er bod amser sylweddol ers y digwyddiadau yma, mae nifer yn parhau i ddal dig am y gamdriniaeth a’i dioddefwyd yma, yn enwedig camdriniaeth teuluoedd a llwythi’r Mapuche. Ac felly mae’r dieciocho, neu’r Fiestas Patrias yma yn ddiwrnod (sy’n tueddu i droi’n fwy fel wythnos o wyliau) o ddathlu cyffrous ac yn achlysur anhygoel o hapus i bawb yma. Gyda’r dyddiad yn cwympo rhyw fis ar ôl i mi gyrraedd Chile flwyddyn diwethaf, daeth fel ‘crash course’ am Chile – bwyd, traddodiadau, dawnsio, diod, dathlu…

Fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr prifysgol sy’n mynd i ddysgu ar eu blwyddyn dramor, mae fy amserlen yn caniatáu tipyn o amser rhydd i ddod i nabod yr ardal a rhannau eraill o’r wlad. Gyda bod cymaint o amrywiaeth hinsawdd yma yn Chile, mae cryn dipyn i’w weld, a falle dim cyfle i weld popeth ! Mae’r stribyn hir a thenau o dir yn rhedeg yn syth lawr ochr orllewinol De America, yn sownd rhwng mynyddoedd yr Andes a’r Môr Tawel, gydag anialwch yr Atacama yn y gogledd a’r de yn cyrraedd mor bell â chapiau iâ Pegwn y De, sy’n cael ei nabod fel Tierra del Fuego. Mae’r amrywiaeth o dirwedd sydd rhwng y pegynau yma yn anhygoel, ac yn cynnwys bron pob math o dywydd tymheredd a bywyd gwyllt y gallwch chi feddwl amdanynt. Yn ogystal â newid tirwedd, mae’r bobl a’u harferion yn newid o ardal i ardal, gydag amrywiaeth mawr mewn edrychiad, cymeriadau, dillad a bwyd, gan ddibynnu ar yr hyn sydd o’u cwmpas ac ar gael iddynt.  Mae’n debyg y byddai’n cymryd dros 68 awr i deithio o ogledd pellaf Chile i’r de mewn car ar hyd y Ruta 5, anodd i ni Gymry ddychmygu yn dydy?!

Gan fod De America ochr arall y byd, fe ges i fanteisio ar bron tri mis o wyliau haf rhwng mis Rhagfyr a Mawrth, felly ffwrdd a fi gyda fy mag ar fy nghefn i weld beth arall oedd gan Dde America i’w gynnig.

Fe benderfynodd fy rhieni ddod i Chile i dreulio’r Nadolig (a gadel fy mrawd druan!), felly fe ddechreuom ni trwy yrru i lawr i’r carretera austral, ffordd sy’n igamogamu rhwng y llynnoedd, mynyddoedd, llosgfynyddoedd, ynysoedd a rhewlifoedd rhyw 4 awr i’r de o ble rwy’n byw. Roedd y golygfeydd yn rhyfeddol, mynyddoedd enfawr â’u capiau gwyn yn codi’n serth o ymylau’r tir a’r môr, llosgfynyddoedd yn mygu rownd pob cornel a’r ffordd yn fwy a mwy diarffordd gyda phob milltir. Rhwng car a chychod, fe gyrhaeddom  ni ynys Chiloé, ynys o dirwedd hynod a phensaernïaeth draddodiadol; mae’n enwog am y Capeli lliwgar a thai ar stilts yn arnofio ar ddŵr yr afon, a’r pengwiniaid a morfilod sy’n dod yno yn yr haf!

Ar ôl Chiloé, hedfan i Santiago, a newid hinsawdd yn llwyr, o’r de llaith i lwch a gwres y brifddinas. Treulio rhai diwrnodau yno ac mewn dinas gyfagos, Valparaíso, yn dathlu’r Nadolig a’r flwyddyn newydd. Valparaíso liwgar, swnllyd, ger porthladd rhyngwladol enfawr, ac yn llawn bwytai, graffiti, marchnadoedd a phartïon – dinas anhygoel.

Ffarwelio â’m rhieni, a chroesawi fy ffrind Hannah, a hedfanodd i gwrdd â fi ar ddiwedd Rhagfyr er mwyn teithio gyda’n gilydd – tipyn saffach a lot o hwyl! Rhaid cyfadde’ fod gweld gwynebau cyfarwydd yn fwy gwerthfawr fyth gyda bod mor bell o adre. Felly off a ni, lan trwy ogledd Chile, yn anelu am anialwch yr Atacama.

Ar ôl tridiau yna, yn ymweld â’r ardal a’i atyniadau, fel la Valle de la Luna, dod i arfer â gwres sych yr anialwch, a diwrnod o ‘sandboarding’, fe benderfynom ni deithio draw dros y ffin i Folivia.

Taith 3 diwrnod mewn car dros anialwch, mwd, mynyddoedd, heibio llynnoedd a fflamingos, a chroesi’r Salar de Uyuni enwog wrth gyrraedd Bolivia (sydd fwy neu lai yn ddarn enfawr o halen, 11,000km2 o faint, yn ne-orllewin Bolivia) – am brofiad! Golygfeydd trawiadol, fydda i byth yn eu hanghofio, a do, fe dynnais i gannoedd o luniau!

Fe dreuliom ni bythefnos yn symud o le i le ym Molivia, mewn hen fysiau, yn cael ein rhyfeddu dro ar ôl tro gan y tlodi, bywyd caled a’r amodau byw roedd llawer o’r bobl yn diodde’. Llawer yn byw heb y pethau symlaf, fel dŵr glân, trydan, addysg..

Gwers Bolivia: Mae tai bach sy’n fflysho yn fendith!

O Folivia i’r Ariannin, neu Buenos Aires i fod yn fwy sbesiffig: dinas enfawr, brysur, chwyslyd ac Ewropeaidd iawn ei golwg, a’r bobl yn llawer mwy allblyg na Chile a Bolivia. Mae’n bosib iawn bod ni wedi dewis amser hollol anghywir y flwyddyn i ymweld â Buenos Aires, gan fod y ddinas mor boeth ei bod hi’n anodd gwneud unrhywbeth heb chwysu a gorffen y dydd mewn mess chwyslyd dryslyd, ond ta waeth – lot o hwyl yn dilyn ein trwynau trwy ardaloedd amrywiol y ddinas, o’r rhannau crand i’r porthladd hanesyddol  bywiog.

Gwers yr Ariannin: Mae Crocs dal yn ffasiynol !?

Ar ddiwedd mis Ionawr, fe benderfynom gymryd llong o Buenos Aires i Uruguay; gwlad fach yng nghornel uchaf yr Ariannin ar fôr yr Iwerydd. Penderfynu mynd fwy na dim gan fod hon yn un wlad nad oeddem ni’n gwybod braidd dim amdani, heblaw bod traethau gwyn a thonnau da (atyniad i’r ddwy ohonom ni sy’n syrffio). Ac yn wir, dyma ddaethom ni ar ei draws! Tair wythnos yn crwydro lan yr arfordir o draeth i draeth, yn yr haul, cwrdd â ffrindiau newydd a phobl ffein y wlad, syrffio, partio, mwynhau gwlad naturiol brydferth.

Gwers Uruguay: Buenas olas, buena onda.

Gyda diwedd mis Chwefror yn frysiog agosáu, a dyddiad Carnaval Brasil yn gyfagos, fe gymeron ni fws i ogledd Uruguay i Chuy; tre ar ffin Uruguay a Brasil, gyda’r ffin yn llythrennol yn rhedeg drwy’r canol, un ochr stryd yn siarad Sbaeneg a’r siopau yn trin pesos (arian Uruguay), a’r ochr arall yn siarad portiwgeaidd a phopeth mewn prisiau reales (arian Brasil), crazy!

Ein stop cyntaf oedd Rio de Janeiro, ar fws oedd fod i gymryd 18 awr. Gyda bod hi’n benwythnos Carnaval ym Mrasil, ac mai Rio de Janeiro yn ganolbwynt i lawer o’r digwyddiadau a’r dathlu, a phob dyn a dynes yn anelu am y ddinas yr un pryd a ni, roedd cryn dipyn o draffig ar y ffyrdd, a’r bws chwyslyd yn cropian yn araf am 29 awr lan y draffordd, cyn i ni gyrraedd o’r diwedd.

Ond er y daith braidd yn hunllefus, roedd y 5 diwrnod canlynol o bartïon ar y stryd, dawnsio, cerddoriaeth, gwisgoedd lliwgar (ac ond ychydig iawn o gwsg), yn ogystal â thraethau sy’n fwy prydferth nag unrhyw gerdyn post, i gyd werth y daith hir yna!

Gwers Brasil: Mae’n fwy na mae’n edrych ar y map!

Felly dyna rai o fy hanesion dros y misoedd diwethaf. Dwi nôl yn gweithio yn Chile erbyn hyn, ac mae’r gaeaf yn dechrau cau mewn arnom ni, felly mae’n neis cofio’r dyddiau dreuliais i mewn llefydd mwy trofannol dros yr haf, y bobl des i i’w nabod a’r holl brofiadau newydd ges i ar y cyfandir enfawr ‘ma!

 

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

css.php