LingoMap: Llond plat o Chile

Mae’r rhestr o fwydydd traddodiadol chilenaidd siwr o fod yn dalach na fi. Mae’n amlwg fod Chile yn  genedl o bobl sy’n falch o’u bwyd, o gynhyrchu bwyd, ac yn fwy pwysig yn mwynhau bwyta ! Mae profi bwydydd newydd yn ran pwysig o ddarganfod a dysgu am wlad newydd, i mi, a ganamlaf yn ran mawr o unrhyw daith neu wyliau tramor. Ac yn fwy pwysig mae’n gallu bod yn lawer o hwyl darganfod y bwydydd newydd, gwahanol, rhyfedd a’r arferion sy’n dod gyda nhw !

Yn lwcus iawn i mi, fe ddes i nabod dwy ferch chilenaidd yn gynnar iawn yn fy nghyfnod i yma, ac fe wahoddon nhw fi i fyw gyda nhw. Mae hyn wedi golygu bod fy mhrofiad i o fyw yma yn hynod ddilys, yn hytrach na byw gyda thramorwyr eraill, ac mae’r ddwy wedi  bod yn help rhyfeddol i mi wrth setlo a ffeindio fy nhraed yn Valdivia. Yn ogystal a hyn mae’r ddwy fel tasen nhw’n mwynhau dangos i mi  beth yw bywyd chilenaidd, fel dwy ‘tour guide’ yn fy arwain i trwy’r flwyddyn, ac yn mwynhau fy ngweld i’n profi’r holl bethau yma, sydd mor gyfarwydd iddyn nhw, am y tro cyntaf.

Os ofynnwch chi i unrhyw berson chilenaidd beth fyddan nhw’n gwneud dros y penwythnos, mae’n debygol iawn y byddan nhw’n ateb fod cynlluniau ganddyn nhw ei dreulio gyda’i teulu, hyd yn oed os yw hyn yn golygu teithio am oriau i gartref ei rhieni. Dyma un peth sylwais i’n gynnar iawn, yw fod penwythnosau’n snactaidd, ac yn amser mae’n nhw’n blaenoriaethu i dreulio gyda’u teulu yn hytrach na ffrindiau, sydd erbyn hyn yn eitha gwahanol i ni Brydeinwyr. Ac mae’r penwythnosau sanctaidd yma ganamlaf yn llawn bwyd cartref, wedi ei baratoi gan fam neu fodryb neu famgu, hydynoed weithiau gan ‘Nana’ y tŷ (dynes sy’n cael ei thalu i oflau am y tŷ a’r plant, glanhau a choginio, ac sydd yn aml yn dod yn ran pwysig o’r teulu).
Gyda lwc ces i fy ngwahoddwyd nifer o weithiau i ymuno a theuluoedd fyffrindiau am benwythnosau, weithiau i ddathlu penblwydd neu rhyw achlysur, droion eraill er mwyn gwneud dim byd ond ymlacio.

Bob tro rwy’n cael fy ngwahodd, rwy’n rhyfeddu at faint o fwyd sy’n cael ei baratoi – mynyddoedd o fwyd ar blatiau yn gorchuddio byrddau mawr, digon i fwydo Cymru i gyd. Y bwydydd yma’n cynnwys chupe de jaiba, cazuela, ceviche, pastel de choclo, sopaipilla, alfajores, empanadas a chig oddi ar y parrilla… mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Buom ni un diwrnod yn eistedd wrth y bwrdd, yn nhy rhieni fy ffrind Massiel, am 8 awr, gyda llif cyson o blatiau llawn yn cael eu hanfon o gwmpas a’i mam yn gofyn yn aml os oeddwn i wedi cael digon i’w fwyta, os oeddwn i eisiau mwy o hyn neu’r llall..? O’m mhrofiad, mae’n arfer iddynt yma gynnig bwyd, rhannu pryd, a rhoi profiad pleserus, fel ffordd o ddangos gofal a chyfeillgarwch, ac mae nhw’n hynod o ofalus a chroesawgar yn y modd yma.

Gan fod Chile yn stribyn hir a thenau o dir ar ochr orllewinol De America, mae’n amrywio’n aruthrol dros ei 4,270 cilometr. O anialwch sych yr Atacama yn y gogledd at rewlifoedd glas Tierra del Fuego yn y de, mae modd gweld pob hinsawdd o fewn yn un wlad yma. Gyda hyn daw amrywiaeth helaeth o ffyrdd o fyw, cymunedau ac arferion, heb anghofio amrywiaeth o fwydydd i’w profi ! Mae’r arfordir yn cynnig dewis o fwydydd môr, a phob ardal â’i arbenigaeth, ac addasiad o’r prydiau mwyaf sylfaenol chilenaidd. Gyda lwc mae’r gwaith rwy’n ei wneud yma yn caniatau i mi deithio yn aml am benwythnosau hir i ranau eraill o’r wlad er mwyn manteisio ar hyn. Mae bwyd traddodiadol i’w weld ymhobman, gyda marchnadoedd stryd a stondinau dros bobman, ac mae’r bobl yn falch iawn o’r hyn sy’n diffinioú gwlad ar blat.

Drwy’r bwydydd a’r arferion, mae modd dysgu tipyn am hanes Chile a’r pethau sy’n ei gwneud yn wlad mor anarferol, ac yn ei gwahaniaethu oddi wrth wledydd eraill de America.
Gan ddechrau gyda Caldillo de Congrio: math o gawl wedi ei baratoi gyda phennau llysywen (‘eels’!), a ddaeth yn boblogaidd wedi i’r bardd enwod Pablo Neruda ysgrifennu awdl am y pryd, gan ei fod yn credu fod coginio a bwyta’r pennau yn ei wneud yn fwy clyfar!
Ar ynys Chiloé, anaml iawn y bydd pryd yn dod i’r bwrdd heb datws. Mae’r ynys yn falch o fod wedi cadw at lawer o hen draddodiadau gwerinol y wlad, gan gynnwys dulliau tyfu a choginio tatw – mae ganddynt 286 math gwahanol o datw ar yr ysys ! Curanto yw’r pryd y mae Chiloé yn parhau i fod yn enwog amdano, cymysgedd o lysiau, bwyd môr, cig a thatw sy’n cael eu coginio mewn twll mawr yn y ddaear dros dân, ac yn cael ei wasgu i lawr â phwysau cerrig, un o fwydydd traddodiadol y bobl frodorol, Mapuche. Mea’n angygoel i mi fod arferion fel yr un yma wedi parhau i gael eu defnyddio ers miloedd o flynyddoedd.

Un peth ddweden i  am fyw yn Chile yw y byddai’n anodd bod yn lysieuwr, gan mai prin iawn yw prydiau heb gig! Yn aml os fydd rhywun yn ceisio esbonio nad ydyn nhw’n bwyta cig, caiff hyn ei ddehongli fel peidio bwyta cig coch, a bydd darn o gig o fath arall ar eu plat er gwaethaf ei hymdrech i esbonio. Gore oll symud trwy Chile â meddwl agored a chwant am fwyd!

Gadael Ymateb

css.php