Golwg i mewn i fywyd person ifanc yn Huelva (LingoMap)

Buenos días bawb, a chroeso i fy mlog gyntaf!

I ddechrau off, dwi am esbonio ble yn union ydw i wrth ysgrifennu hyn. Dwi wedi fy lleoli o fewn ciudad o’r enw Huelva sydd o fewn dalaith Andalucía. Ydych chi erioed wedi clywed amdani? A bod yn onest, oeddwn i heb cyn cael fy lleoli yma! Tuag awr i’r gorllewin o Sevilla ac ar arfordir Môr yr Iwerydd, dwi’n gallu cadarnhau ei bod yn hidden gem – efo tywydd hynod o boeth! Ffan o fefus? Dwi bron yn gallu gwarantu eu bod wedi dod o Huelva. Man cychwyn Christopher Columbus ar ei daith i ‘ddarganfod’ yr Americas? , Huelva.

Teulu sy’n gwneud i’r byd droi

Dwi’n gobeithio nawr eich bod efo rhyw fath o syniad o fy lleoliad, felly mae’n amser neidio syth i mewn i ein thema gyntaf – bod yn berson ifanc mewn cymdeithas Sbaeneg ei hiaith. Heb amheuaeth, y peth mwyaf pwysig i bobl Sbaen yw eu teulu. O fewn ychydig o ddyddiau o fod yma, wnes i ddysgu pa mor agos oedd teuluoedd Sbaenaidd. Wrth gerdded strydoedd mwyaf bywiog y ddinas ar fy mhenwythnos cyntaf fel dinesydd rhan-amser Sbaen, roeddwn i’n methu peidio â gwenu wrth weld y teuluoedd mawr a oeddynt mas yn bwyta, yfed a chwerthin efo’i gilydd. O fabanod a chefnderoedd i rieni a neiniau a theidiau – roedd pawb yn hapus i gael eu hamgylchynu gan deulu (ac, wrth gwrs, tapas). Hyd yn oed pan nad yw’r teulu efo’i gilydd mewn person, maent o fewn cyswllt o hyd. Wrth imi deithio i’r gwaith pob bore ar fws y ddinas, 9 allan o 10 waith bydd y fenyw ar fy mhwys yn danfon Whatsapp i ‘Tía Inma’ neu ‘Hermana María’ wrth i’r chico sy’n sefyll lan a gweiddi ‘Dime Mamá’ wrth ateb y ffôn.

Hei, ti’n cŵl, ti’n ffrind i mi!

Mae ffordd agored ac allblyg o fyw pobl ifanc Sbaen yn gwneud y dasg o greu ffrindiau yn un hynod o hawdd iddynt. Yn ogystal â theuluoedd enfawr ar y strydoedd yn hwyr yn y nos, gwelir niferoedd diddiwedd o pandillas de amigos yn cwrdd i dreulio’r noson yng nghwmni ei gilydd. Bydd y merched yn croesawu ei gilydd efo’r dos besos traddodiadol, cyn iddynt alw draw’r camarero i osod archeb fwyd/diod.

Una mirada desde adentro

¿Mi experiencia? Me considero muy afortunada como estudiante de ERASMUS. Diría que he sido adoptada por una familia española aquí en Huelva y ¡una muy buena familia! Voy a su casa dos veces por semana y solo en ese corto tiempo puedo ver la importancia de la familia para ellos. Muy a menudo viene a la casa una abuela o una prima e instantáneamente toda la familia está feliz de estar juntos, ¡incluso las gemelas, que tienen solo dos años! Las niñas me han llamado “hermana” un par de veces, y eso es algo que atesoraré para siempre. Tengo la suerte de haber visto de primera mano la importancia de la familia para los españoles. Su amor familiar también se ha extendido a mí, y he recibido mensajes como “estoy aquí para lo que necesites”, por ejemplo. ¡Qué lindo!

¿Una Huelva bilingüe?

 A mi modo de ver, el tema de la enseñanza de inglés en Huelva es muy interesante. Aunque no hay mucha gente que pueda hablar inglés (de hecho, casi nadie), en las calles veo un montón de academias de inglés para la juventud. Claro, hay oportunidades de educación en toda la ciudad, pero parece que no hubiera suficiente demanda de aprender inglés. Si yo fuera un joven español, aprendería inglés sin dudarlo. Son innumerables las veces que me han preguntado en los últimos cuatro meses si estaría interesada en trabajar en una academia, ¡solo porque hablo inglés! Aunque no soy española, esta habilidad idiomática me abre tantas puertas en el mundo profesional español. ¿Pensáis que los jóvenes deberían esforzarse más por aprender una nueva lengua?

 

Hablemos de empleos…

A pesar de que la ciudad está llena de estudiantes de la Universidad de Huelva, aprendí que lo peor para los jóvenes es que las oportunidades de empleo son muy pocas. He hablado con varios jóvenes (ahora sé llamar la atención de alguien en España) y en la conversación les pregunte qué trabajo hacen. Es decepcionante escuchar la respuesta “estoy parad@” con una voz tan avergonzada tantas veces, o recibir una respuesta que explica la falta de trabajos disponibles en Huelva “si no quieres ser camarer@”.

Gwych, ond beth yw’r busnes efo’r holl ‘@’?

Ydych chi wedi’ch drysu gan y defnydd ailadroddus o’r symbol ‘@’ ar ddiwedd geiriau Sbaeneg trwy gydol y blog? Peidiwch â phoeni! Dyma sut mae siaradwyr Sbaeneg yn ysgrifennu gair a all naill ai fod yn wrywaidd neu’n fenywaidd o fewn brawddeg. Hynny yw, os yw’r gair fel arfer yn bennu efo naill ai ‘o’ neu ‘a’. Gallwch chi feddwl am fwy o enghreifftiau?

Dyma bopeth sydd efo fi am nawr, amig@s, ond dwi’n edrych ymlaen yn barod at ddod nôl efo thema arall i’ch dysgu mwy am Huelva (ac Andalucía yn gyffredinol) mewn cwpl o wythnosau.

¡Hasta pronto!

Gadael Ymateb

css.php