LingoMap: Wedi blwyddyn dramor…beth nesa?

Bythefnos a deuddydd yn ôl roeddwn i’n eistedd yn fy sedd mewn awyren ar fin gadael Chile am y tro olaf flwyddyn hon, ac am deimlad rhyfedd oedd hynna! Ro’n i mor hapus am fod yn dychwelyd adre am gyfnod er mwyn gweld teulu a ffrindiau eto am y tro cyntaf ers blwyddyn. Er hynny roeddwn i’n hollol drist am fod yn gadael yr holl ffrindiau yn Chile oedd wedi bod yn deulu i mi dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n od mai weithiau dim ond pan ddaw cyfnod i ben y byddwch chi’n sylwi pa mor arbennig oedd y cyfnod hwn. Yn anffodus dyw’r daith o Gymru i Chile ddim yn un fer na rhad, ac roeddwn i’n ymwybodol iawn o hyn wrth ffarwelio gyda phawb am y tro olaf, gan addo i’n gilydd y byddwn ni’n cwrdd eto yn y dyfodol, ar ryw bwynt.

Teimlad braf oedd cyrraedd adre ac ail-afael yn yr holl bethau cyfarwydd sy’n dod gyda bod yn eich gwlad eich hun: iaith gyfarwydd, arferion pobl, tirwedd gwyrdd Cymru, fy ngwely fy hun, Heinz beans… Wedi dweud hynny doeddwn i ddim wedi ymafael yn llwyr yn y ffaith ‘mod i adre am rai diwrnodau, gan sylwi ar fy hun yn dweud ‘si’, ‘gracias’, ‘permiso’ wrth bobl o’ng nghwmpas sawl gwaith wedi cyrraedd Prydain!

Fe dreuliais i ddeg diwrnod adre, rhwng fy nghartref yn Aberystwyth ac ymweld â ffrindiau prifysgol yn Abertawe, yn dal lan ar holl hanesion y flwyddyn. Er mor neis oedd bod adre, roeddwn i eisoes wedi penderfynu mynd i weithio yn Ffrainc am yr haf er mwyn ymarfer fy Ffrangeg (oedd wedi mynd ar goll rhywle yn nyfnderau fy ymennydd dros y flwyddyn ddiwethaf o siarad Sbaeneg). Gyda lwc fe ddes o hyd i waith mewn Hostel yn yr Alpau, mewn tref o’r enw Chamonix.
A dyma ble rydw i ar hyn o bryd – mae’n le anhygoel, gan fod gymaint i’w wneud yn y mynyddoedd yn ystod yr haf, o gerdded i ddringo i seiclo i fwyta’r holl fwyd Ffrengig! Wedi bod yn siarad Sbaeneg drwy’r flwyddyn, mae’n teimlo fel tase lefel fy Ffrangeg wedi dirywio ychydig, ac mae ceisio cyfathrebu’r pethau hynny oedd yn arfer bod mor hawdd nawr yn dianc yn aml o’n ngheg yn Sbaeneg. Er bo fi eisoes yn gwybod bod angen parhau i ddefnyddio ac ymarfer iaith er mwyn cadw safon, yn yr un ffordd ag y byddech chi’n ymarfer cyhyr yn eich corff wrth hyfforddi ar gyfer rhyw chwaraeon penodol, doeddwn i ddim wedi sylwi pa mor wir oedd hyn. Gobeithio erbyn diwedd yr haf y bydda i wedi ail-gydio yn y gallu i siarad Ffrangeg cyn dychwelyd i’r brifysgol am fy mlwyddyn olaf!

Wrth feddwl yn bellach na diwedd fy mlwyddyn olaf yn astudio, mae’n anodd penderfynu pa lwybr gwaith bydda i’n ei ddilyn. Wrth ofyn pa swydd rwy’n bwriadu ceisio amdani pan fydda i wedi gorffen astudio ac wedi graddio, yr ateb amlwg mae pobl yn ei ddisgwyl yw athrawes neu gyfieithydd. Ar hyn o bryd alla i ddim gweld fy hun yn gweithio fel y naill, sy’n syndod i ran fwyaf.

I mi, mae bod yn aml-ieithol yn fwy na medru trosglwyddo gwybodaeth o un iaith i’r llall: mae’n sgil sy’n galluogi cyfathrebu a chysylltu gyda mwy o bobl o rannau amrywiol y byd, mae wedi rhoi golwg  dyfnach a mwy deallus o ddiwylliant gwledydd dieithr, mae’n dysgu i mi i fod yn amyneddgar, yn hyderus yn fy ngallu fy hun ac i ddyfalbarhau mewn sefyllfaoedd estron, yn ogystal â bod yn rheswm da i deithio neu weithio mewn gwledydd tramor… mae’r rhesymau dros ddysgu neu astudio ieithoedd yn ddiddiwedd, ac i mi mae dysgu un arall wastad yn apelio.

Beth sy’n fwy pwysig na dim i mi yw dod o hyd i swydd sy’n sialens ac yn fy nghaniatáu i fod o gwmpas ac yn gweithio â phobl, boed hynny yng Nghymru neu dramor. Heblaw am y ddwy elfen hyn, does gen i ddim syniad pendant am y math o swydd hoffwn i ymhen rhai blynyddoedd. Rhywbeth i feddwl amdano dros y flwyddyn nesaf o astudio yn Abertawe..!

Gadael Ymateb

css.php