LingoMap: Terremotos & twitter

“Pam bo ti moen mynd mor bell?”

“Ond nag oes ofn gyda ti fynd yna ar dy ben dy hun?”

“Byddi di’n dod adre dros y gwylie nadolig… yn byddi?”

“So byddi di ddim yn gweld dy deulu am flwyddyn??”

…cwestiynnau glywais i gant a mil o weithiau cyn i fi adael Cymru am Chile. Am rhyw reswm roedd pawb o’ng nghwmpas i yn ymddangos yn llawer mwy petrus na fi am yr holl beth! Wedi i mi gael gwbod y byddwn i’n dod yma am fy mlwyddyn dramor i weithio, roedd gen i 6 wythnos i gael visa o Lundain, bwcio fy nhocynau hedfan a ffarwelio cyn gadael. Dwi yma yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu Saesneg ers 4 mis bellach, 4 MIS! 4 mis sydd wedi hedfan heibio mewn chwiiiiiib dryslyd a chyffrous, llawn profiadau newydd, camgymeriadau gramadegol a chroeso arbennig.

“A sut mae bywyd yn Chile?”

Gwahanol.

Erbyn hyn sai’n cofio yn iawn beth oeddwn i wedi ei ddisgwyl cyn dod yma, ond wedi’r cwpwl o fisoedd diwethaf yn byw yma mae’n saff dweud fod amryw wahaniaethau rhwng bywyd yng Nghymru ac yn Chile. Rhwng yr adeiladau a’r oriau gwaith, y system fysiau, yr archfarchnadoedd, y prifysgolion, y llywodraeth, y bobl ac hyd yn oed y cŵn… weden i bo chi wedi deall fod eitha lot sy’n wahanol yma!
Ac er, ar adegau fod, byw trwy iaith ddieithr yn flinedig, dwi’n mwynhau dysgu byw yn ôl rhythm gwlad newydd.

Gyda lwc dydw i ddim yn teimlo yn bell iawn o adref. Gadewch i ni fod yn onest gyda’n hunain, dyw’r byd wir ddim mor fawr ag y mae’n ymddangos erbyn hyn, yw e?
Rydyn ni’n byw mewn cyfnod sydd, gyda diolch i facebook, twitter, snapchat, Instagram…ac unrhyw app neu wefan arall sy’ na ar bob ffôn symudol y dyddie ‘ma, does dim lot o fywyd fy nheulu a ffrindiau adref dwi’n teimlo fel bo fi’n ei golli.

O un sgrôl lawr facebook dwi wedi dal fynny ar y newyddion dydd i ddydd o adref, pwy sy’n dathlu penblwydd a phwy sydd yn priodi, ble aeth fy ffrindiau allan neithiwr a chi newydd fy mrawd mewn siwmper nadolig.
Gyda mwy a mwy o rwydweithiau cymdeithasol yma mae’r byd yn ymddangos bron fel tase’n shrincio , a dyw hyd yn oed teithio 11, 753 cilometr i ochr arall y byd ddim yn caniatau i fi ddianc y bywyd sydd gyda fi adre. Er yn amlwg fod bod yng nghwmni go iawn rhywun ganwaith gwell na siarad dros y wê, mae mor hawdd i ni gadw mewn cyswllt â phobl fod hyn ddim yn reswm i fi ystyried peidio dod i Chile. Mae gwybod fod modd siarad gyda rhywun sydd lan fynna yn hemsffêr arall y byd unrhyw awr o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos wastad yn gysur – dyna lwcus ydyn ni i fyw yn yr oes yma!

 

Un peth doeddwn i ddim wedi disgwyl gorfod dod i arfer byw â nhw cyn symud yma oedd daeargrynfeydd. Terremotos (swnio bach yn fwy dramatic yn sbaeneg) ! Un o’r pethau ddysgais i gyntaf am Valdivia oedd bod y ddinas wedi dioddef y ddaeargryn gryfaf erioed dan record yn 1960, gyda phŵer o 9.5 richter. O feddwl mai 10 yw’r mesuriad uchel ar y ‘Richter Scale’ fi’n dychmygu fod honna wedi bod yn eitha bouncy!

Mae’r wlad nawr yn llawer myw parod ar gyfer y daeargrynfeydd, gyda phob adeilad newydd yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau wedi eu datblygu i wrthsefyll effeithiau symudiad tir, ganamlaf trwy dechnoleg sy’n galluogi’r adeilad i symud o ochr i ochr heb ddymchwel yn llwyr.

Gan fod Chile yn stribyn hir o dir sy’n gorwedd yn gyfochrog a ffin dau blat tectoneg sy’n cwrdd dan y môr, mae na hefyd risg parhaol y gall tsunami ein bwrw ni yma hefyd – faaaaantastic.

So beth fi fod I neud pan fi’n teimlo’r llawr yn neidio, ma’r walie’n shiglo a fi’n gweld ton fawr yn dod ata i o bell?? Rhedeg??!

Na, does dim amser am banic. Mae’n debyg fod daeargryn felarfer yn para rhwng 3 a 5 munud, ac erbyn sylwi beth sy’n digwydd does dim llawer o gyfle i symud yn bell, felly mae’n well ceisio amddiffyn dy hun oddi wrth unrhyw ddodrefn all gwympo neu ffenestri a all dorri, a trio dod o hyd i fwrdd cadarn i guddio oddi tanno.

Dydw i ddim wedi teimlo daeargryn gryf iawn eto, gan fod mwy wedi bwrw gogledd y wlad, yn ardal y brifddinas Santiago, nag yn y de y flwyddyn hon.  Bu tri dirgryniad (daeargryn wan) yn gynharach fis yma yn ystod y nos, ond gan bo fi’n cysgu mor drwm deimles i ddim byd ! Hyd yn hyn does dim dull hollol effeithiol o ragweld pryd fydd daeargryn yn digwydd, ond mae’n bosib rhagweld os fydd tsunami yn bwrw’r arfordir, sydd yn lwcus i fi, gan fod Valdivia ar lan afon ac ond rhyw 4 milltir o fôr y Pasifig (y môr tawel) ac yn ardal sydd wastad dan fygythiad os ddaw tsunami.

Ers bod yma mae pawb wedi bod yn argymell i fi ddilyn gwefannau a rhwydweithiau sy’n rhoi gwybodaeth am y daeargrynfeydd sydd wedi digwydd a’r bobl sydd wedi eu heffeithio a’u niweidio, ac sy’n anfon rhybuddion am unrhyw  tsunami all fod ar ei ffordd a chyfarwyddiadau am ba gyfeiriad i ddianc pan fo angen. Twitter erbyn hyn yw’r ffordd hawsaf o ddilyn y diweddariadau yma a gweld os oes unrhywun o fy ffrindiau sydd yn rhannau eraill Chile wedi eu heffeithio. Do’n i ddim wedi ystyried cyn hyn y bydde Twitter yn medru bod o ddefnydd mor ymarferol a phwysig i’n niogelwch, a fi’n teimlo’n eitha lwcus i fyw mewn oes ble mae gwybodaeth fel hyn mor hawdd i ddod ar ei draws.

Er bo fi’n gwbod pa mor beryglus ma nhw’n medru bod, ac y bydde pob ffrind chilenaidd sydd gyda fi yn damio fi am ddweud hyn, mae na ran ohona i sy’n ysu i deimlo daeargryn mawr tra bo fi’n byw yma, er mwyn deall am beth mae nhw’n siarad a theimlo pŵer y tir… 7 mis arall yma, felly croesi bysedd!

Gadael Ymateb

css.php